John Jenkins Ganwyd: 1933 Magwyd: Ei eni yng Nghaerdydd a'i fagu yng Nghwm Rhymni Addysg: Ysgol Ramadeg Bargoed |
| Arwain ymgyrch fomio yn y 60au Wrth i gyfres o ffrwydradau siglo a sigo gwahanol dargedau yng Nghymru a'r gororau yn ystod ail hanner chwedegau'r ganrif ddiwethaf, derbyniwyd y cyfrifoldeb yn ddigon parod gan Fyddin Rhyddid Cymru. Er mai mudiad a alwai ei hun yn MAC - Mudiad Amddiffyn Cymru - oedd yn hawlio'r difrod, roedd yr FWA yn parhau i fynnu mai aelodau'r mudiad hwnnw oedd y tu ôl i'r cyfan ac, wrth gwrs, roedd MAC yn ddigon hapus i guddio y tu ôl i fudiad arall. Gwyddai'r heddlu o'r gorau mai rhywun - neu rywrai - amgenach na Byddin Rhyddid Cymru oedd wrthi. Roedd y dechnoleg y tu ôl i'r ffrwydradau yn rhy soffistigedig i briodoli'r gwaith i'r FWA. Eto i gyd, doedd neb yn rhyw siŵr iawn a oedd MAC yn bodoli, heb sôn am weithredu. Daeth yr ateb ar 2 Tachwedd 1969 pan arestiwyd swyddog ifanc gyda'r fyddin, a hwnnw'n enw dieithr iawn i'r awdurdodau, i'r wasg ac i'r cyfryngau. Swyddog yng Nghorfflu Deintyddol Brenhinol y Fyddin oedd John Barnard Jenkins, gŵr 36 mlwydd oed a ddisgrifiwyd gan ei uwch swyddogion fel milwr teilwng. Roedd yn briod ac yn dad i ddau o fechgyn.
Dirgelwch y dyn Ond pwy, mewn gwirionedd, oedd y gŵr tawel hwn fu'n gyfrifol am greu hafoc ymhlith yr awdurdodau dros y tair blynedd flaenorol? Ychydig a wyddai neb amdano, ac ychydig iawn a ŵyr neb amdano o hyd. Erbyn hyn diflannodd yn llwyr o'r maes gwleidyddol gan adael ar ei ôl lawn cymaint o gwestiynau ag a gafwyd o atebion iddynt. Ganwyd John Jenkins yng Nghaerdydd yn 1933 i rieni di- Gymraeg. Fe'i magwyd ym mhentref Penbryn yng Nghwm Rhymni a'i addysgu yn Ysgol Ramadeg Bargoed. Ymunodd â'r fyddin yn 1952 gan wasanaethu gyda Chorfflu Deintyddol Brenhinol y Fyddin yn Awstria a'r Almaen. Yna, er iddo dderbyn dyrchafiad i radd Rhingyll, dychwelodd i Gwm Rhymni i weithio yn y gwaith dur ac mewn glofa cyn dioddef damwain beic modur ddifrifol. Wedi iddo wella, arhosodd ymlaen i weithio yn yr ysbyty lle cyfarfu â'i ddarpar wraig, ac er mwyn gallu fforddio priodi ailymunodd â'r Corfflu Deintyddol gan dreulio cyfnod yng Nghyprus. Yna gwasanaethodd ar gylchdaith yn yr Almaen cyn dychwelyd i Gymru lle trigai ef a'i wraig yn un o dai'r fyddin yn Wrecsam gan wasanaethu yng ngwersyll Sychdyn ger Caer. Dyna esgyrn sychion cefndir John Jenkins, un a fu'n ddraenen yn ystlys yr awdurdodau am dair blynedd. Troi at drais
Ond beth a symbylodd y gŵr ifanc, deallus a thawel hwn i droi at ddulliau uniongyrchol er mwyn ceisio rhyddhau ei wlad? Beth wnaeth ei sbarduno i beryglu bywydau, gan gynnwys ei fywyd ei hun, trwy gychwyn ar ymgyrch fomio a ymledodd o'r gogledd i'r de a thros y ffin? Mae'n debyg mai'r catalydd mawr, fel yn hanes llawer o genedlaetholwyr o'r un cyfnod, oedd Tryweryn. Er gwaethaf ambell lwyddiant etholiadol, teimlai fod Plaid Cymru yn ddi-rym. Yn wahanol i'r gred gyffredinol, nid atal yr Arwisgo rhag digwydd oedd bwriad MAC a John Jenkins. Parhaodd y bomio wedi'r Arwisgo. Na, y bwriad oedd codi ymwybyddiaeth y Cymry o'u cenedligrwydd, a gwyddai John Jenkins fod trais yn talu. Pan oedd yng Nghyprus gwelodd yr Archesgob Makarios, a frwydrodd dros annibyniaeth ei wlad yn erbyn byddin Prydain, yn dychwelyd o gaethiwed fel arwr. Yn dilyn ei arestio, cadwyd John Jenkins yng ngharchardai Amwythig a Risley tan ddechrau ei achos ym mis Ebrill 1970. Cafwyd ef yn euog o nifer o gyhuddiadau o achosi ffrwydriadau a charcharwyd ef gan yr Ustus Thompson am ddeng mlynedd. Yn eironig ddigon, hwn oedd yr un Ustus Thompson a garcharodd aelodau o'r FWA ar ddiwrnod yr Arwisgo.
'Ei ragordeinio' Honnai John Jenkins iddo gael ei ragordeinio i weithredu'n uniongyrchol dros Gymru. Cyfaddefodd nad oedd yn hoff o ffrwydro unrhyw beth. Ni hoffai, meddai, chwarae hap â marwolaeth, ond ni fedrai ychwaith adael i ddiwylliant, gwleidyddiaeth ac economi Cymru gael eu boddi, yn arbennig felly ei diwylliant. Er nad oes neb lawer yn gliriach eu meddwl am gyfansoddiad MAC, llwyddodd y mudiad rhithiol hwnnw i gipio'r penawdau, ac yn hynny o beth bu ymdrechion John Jenkins, ynghyd â milwr arall a arestiwyd gydag ef, Frederick Alders, yn llwyddiannus. Fel carcharor Categori 'A' tan ganol y saithdegau, gan dreulio rhan helaeth o'i benyd yng ngharchardai Wormwood Scrubs ac Albany ar Ynys Wyth, câi llythyron a gyrhaeddai iddo yno eu cadw'n ôl am gymaint â thri mis. Cyfyngwyd yn ddifrifol hefyd ar y nifer o ymwelwyr y câi eu gweld . Erbyn hyn roedd priodas Jenkins wedi chwalu a chymerodd at y cyfrifoldeb o drefnu addysg ei ddau fab, Vaughan a Rhodri. Gwrthodwyd caniatáu ymweliad gan Eileen Beasley, athrawes y gofynnodd Jenkins iddi drefnu rhan o addysg y plant yn Ysgol Gyfun Rhydfelen. Wrth gwrs, mae teulu'r Beasleys eu hunain yn rhan annatod o hanes y frwydr dros ryddid Cymru.
'Er mwyn Cymru' Pan oedd yn y carchar ysgrifennodd John Jenkins ddwsinau o lythyron, casgliad a gyhoeddwyd yn 1971. Arwyddai bob llythyr gyda'r geiriau 'Er mwyn Cymru'. Amlygodd hefyd ei ddawn fel artist a dylunydd. Pan ryddhawyd ef, cafodd swydd fel trefnydd cymdeithasol gyda mudiad gwrthdlodi ym Merthyr Tudful. Pan holwyd ef gan Sulwyn Thomas ar gyfer y rhaglen deledu Heddiw, gwaharddwyd y rhaglen rhag cael ei dangos gan y BBC. A phan gychwynnodd yr ymgyrch llosgi tai haf, tynnwyd John Jenkins i mewn i'w holi. Yn wir, ef oedd y gŵr a gâi ei amau fwyaf. Ar sail gradd a enillodd yn y Gwyddorau Cymdeithasol tra oedd yn y carchar, a'i brofiad yn y maes cymdeithasol wedi iddo gael ei ryddhau, gwnaeth Jenkins gais am gael dilyn cwrs perthnasol yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Abertawe. Fe'i gwrthodwyd gan bwyllgor ad-hoc a alwyd ynghyd gan y Prifathro, Robert Steele. Daeth yn amlwg iddo gael ei wrthod am ei ddaliadau gwleidyddol, a golygai hynny i'r Brifysgol dorri ei Siarter ei hun. Yn raddol, diflannodd John Jenkins yn ôl i'r cysgodion yr ymddangosodd ohonynt mor ddramatig pan arestiwyd ef yn 1969. Er gwaethaf yr holl rwystrau a osodwyd ar ei lwybr, caiff ei gofio fel un a wnaeth, yn gam neu'n gymwys, garu ei genedl gymaint fel iddo aberthu ei ryddid drosti. Un anfantais i John Jenkins yn y chwedegau oedd iddo fod yn wladgarwr pan nad oedd hi'n fanteisiol i fod yn wladgarwr. Anfantais fawr arall oedd iddo fod yn wladgarwr oedd hefyd yn ddeallus. Hyd heddiw, nid yw'r awdurdodau yn rhyw hoff iawn o bobl felly. Lyn Ebenezer |
When Pride of Wales Launched in 2000 to great media interest the jury was out on the movement , its motives and its members.
This Website was created to spread the word and inform people about us - It was kindly created by Adam Williams from Pandy Wrecsam and was meant to be updated by me. Unfortunatelly we cannot acces it now to update or change it but here it is in its original form
Please remember -THIS IS THE OLD SITE any addresses etc are obsolette now.
On the first day of March we remember
Saint David the pride of our land,
Who taught us the stern path of duty
And for freedom and truth made a stand.
So here's to the sons of Saint David,
Those youngsters so loyal and keen
Who'll haul down the red, white and blue, lads,
And hoist up the red, white and green.
In the dark gloomy days of December
We mourn for Llywelyn with pride
Who fell in defence of his country
With eighteen brave men by his side.
So here's to the sons of Llywelyn,
The heirs of that valiant eighteen
Who'll haul down the red, white and blue, lads,
And hoist up the red, white and green.
In the warm, golden days of September,
Great Owain Glyndwr took the field,
For fifteen long years did he struggle
And never the dragon did yield.
So here's to the sons of Great Owain,
Who'll show the proud Sais what we mean
When we haul down the red, white and blue, lads,
And hoist up the red, white and green.
There are many more names to remember
And some that will never be known
Who were loyal to Wales and the gwerin
And defied all the might of the throne.
So here's to the sons of gwerin
Who care not for prince or for queen,
Who'll haul down the red, white and blue, lads,
And hoist up the red, white and green!
Cosletts Speech from the dock before the FWA men were jailed for their part in the defence of Cymru
July 1st 1969
Page explaining the "Eryr Wyn" http://www.crwflags.com/fotw/flags/gb-w-eag.html

Great info and some interesting history and comments